CV

Support Worker

CV-Library Y Felinheli Posted 08 Sep 2026 Closing: 01 Jan 0001
Permanent On-site
£13.45/hour

Clinical Role Overview

GWEITHIWR CYMORTH

Lleoliad - Y Felinheli, Gwynedd

Contract - Llawn Amser

Math o Rôl - Parhaol

Oriau Gweithio Wythnosol - 37.5

Cyflog - 13.45

Dyddiad Cau - Dydd Iau, 30 Medi 2026

Gweithiwr Cymorth

Complete Care & Enablement & CareTech Community Services Ltd

Lleoliad: Y Felinheli, Gwynedd

Tâl: £13.45 yr awr a hefyd £62.64 lwfans cysgu mewn

Oriau: Parhaol, Llawn Amser (37.5 awr yr wythnos, ar sail rota)

Cofiwch: Efallai na allwn gefnogi ceisiadau os yw cyfyngiadau fisa’r Swyddfa Gartref yn atal ymgeiswyr rhag gweithio’r oriau cytundebol llawn neu ofynion llawn y rôl.

Mae’r Iaith Gymraeg yn Hanfodol

Diwrnodau Anhygoel, Pob Dydd

Yn CareTech, teimlwn yn gryf iawn am ddarparu Diwrnodau Anhygoel, Pob Dydd drwy gymorth person-ganolog o ansawdd uchel. Grymuswn unigolion i fod yn fwy annibynnol, i fagu hyder a dysgu sgiliau bywyd a byw bywydau bodlon yn eu cymunedau.

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio Gweithwyr Cymorth i ymuno â’n tîm ymroddedig yn Y Felinheli, Gwynedd, yn cefnogi oedolion ag anableddau dysgu, awtistiaeth, anghenion iechyd meddwl, a chyflyrau niwrolegol.

P’un ai ydych yn Weithiwr Cymorth profiadol neu’n ystyried gyrfa werth chweil mewn gofal, byddem yn falch iawn o glywed gennych.

Amdan y Gwasanaeth

Mae Complete Care & Enablement yn cefnogi pobl ar draws Gogledd Cymru gydag awtistiaeth, anableddau dysgu, cyflyrau iechyd meddwl, ac anghenion niwrolegol. Mae ein ffocws ar helpu unigolion i fyw mor annibynnol â phosib ond gan dderbyn y cymorth wedi’i deilwrio sydd ei angen arnynt i ffynnu.

Fel Gweithiwr Cymorth, bydd gennych rôl hanfodol mewn cyfoethogi bywydau pobl, hybu lles a gwneud gwahaniaeth ystyrlon pob dydd.

Cefnogi Pobl i Fwynhau Bywyd

Mae’r bobl a gefnogwn yn mwynhau ystod eang o weithgareddau, a byddwch yn helpu i wneud hyn yn bosib, gan gynnwys drwy:

Celf a chrefft

Gweithgareddau hamdden ac adloniant

Diwrnodau allan, prydau bwyd a digwyddiadau cymdeithasol

Ymweld â pharciau thema

Gwyliau a thripiau byr

Gweithgareddau awyr agored

Gweithgareddau hỳb cymunedol

Coginio a phobi i ddatblygu sgiliau bywyd

Y Rôl

Fel Gweithiwr Cymorth, byddwch yn:

Darparu cymorth person-ganolog wedi’i deilwrio i anghenion y person

Helpu gyda sgiliau byw pob dydd a gofal personol pan fo angen

Hyrwyddo annibyniaeth, urddas, a lles

Cefnogi unigolion i fynychu gweithgareddau, apwyntiadau, a mynd i’r gymuned leol

Cadw cofnodion a gwaith dogfennol cywir

Gweithio’n gydweithredol fel rhan o dîm cefnogol

Cyfrannu at rota sy’n cynnwys nosweithiau, penwythnosau, gwyliau banc, ac aros nos

Amdanoch Chi

Rydym yn chwilio am bobl sydd yn:

Gofalgar, amyneddgar a pharchus

Positif, gwydn a dibynadwy

Cyffyrddus yn gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm

Cyfathrebu’n hyderus a gyda sgiliau TG ac ysgrifenedig sylfaenol

Teimlo’n gryf am helpu eraill i gyflawni eu hamcanion

Dim profiad gofal blaenorol? Dim problem. Byddwn yn darparu rhaglen lawn o hyfforddiant a chynefino cynhwysfawr.

Gofynion Hanfodol

Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol

Trwydded yrru lawn y DU

Yn barod i weithio oriau anghymdeithasol ar sail rota

Ymrwymiad i ennill cymhwyster Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Gwiriad DBS estynedig (CareTech yn talu)

Beth a Gynigiwn

Bonws Croeso £250*

Cynllun Bonws Argymell Ffrind*

Hyd at 28 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc)

Gwiriad DBS am ddim

Cerdyn Golau Glas

Pensiwn Rhanddeiliaid

Rhaglen Cymorth i Weithwyr am ddim

Noson Wobrwyo Gweithwyr Flynyddol

Cynlluniau Cydnabod Gweithwyr

Hyfforddiant a datblygiad parhaus

Cyfleoedd clir i ddatblygu eich gyrfa, gan gynnwys cymwysterau hyd at lefel gradd

Grantiau Sylfaen CareTech i deulu a ffrindiau

*Mae telerau ac amodau’n berthnasol. Talwn y bonysau ar ôl i chi gwblhau cyfnod prawf o chwe mis yn llwyddiannus.

Ein Gwerthoedd

Yn CareTech, mae popeth a wnawn wedi’i dywys gan ein gwerthoedd:

Cyfeillgar

Ready to apply for this vacancy?

This healthcare opportunity is hosted on CV-Library. Click below to view the official posting and submit your application.

Key Details
  • Date Posted: 08 Sep 2026
  • Location: Y Felinheli
  • Employment Type: Permanent
  • Workplace: On-site
  • Category: Other
Employer Information
CV
CV-Library
Verified Healthcare Employer

Verified NHS trust or certified UK healthcare facility offering professional development and clinical governance.

More Jobs at CV-Library
Similar Medical Roles
Speech & Language Therapist
CV-Library • TN91RB
Speech & Language Therapist
CV-Library • WV11ED